Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.50 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a cyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau ar bob eitem o fusnes ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 yn cael eu cynnal cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion er mwyn cael egwyl o ddeg munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
3.3 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 22 Ebrill 2015
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
3.4 Dadl Aelod Unigol: dewis cynnig ar gyfer y ddadl
Dewisodd y Pwyllgor Busnes ddau gynnig ar gyfer y ddadl.
Dydd Mercher 18 Mawrth 2015
NNDM5712
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Cydnabod bod technoleg ar-lein, ynghyd ag hysbysebu dwys, wedi hybu twf gamblo yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod gamblo ar gael i’r boblogaeth Cymru gyfan bob awr o’r dydd;
b) gall pobl fynd yn gaeth i gamblo gan greu niwed cymdeithasol a chyfrannu at dlodi, problemau iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c) mae’n hanfodol bod yn ymwybodol o’r broblem a chynnig cymorth yn gynnar rhag i bobl fynd yn gaeth i gamblo;
ch) mae’r twf mewn gamblo ar-lein a pheiriannu betio sy’n cynnig ods sefydlog wedi troi gamblo yn y DU yn ddiwydiant sy’n werth biliynau;
d) mae’r amgylchedd rheoleiddio ym maes gamblo’n gymharol lac.
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol gamblo a’i effaith ar iechyd;
b) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau gamblo; ac
c) ymgysylltu â’r diwydiant gamblo a’r Ymddiriedolaeth Gamblo Cyfrifol i sicrhau bod cyfran o’r arian yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â gamblo.
Dyddiad i’w drefnu
NNDM5713
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi cyfraniad economaidd y diwydiant dur yng Nghymru a’r miloedd o swyddi sydd ynghlwm wrtho.
2. Gresynu at y ffaith bod cymaint o ddur yn cael ei fewnforio ac yn boddi’r farchnad gan greu cystadleuaeth annheg.
3. Galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydain, a fydd yn sicrhau bod yr holl farrau dur carbon y mae’r Llywodraeth yn eu caffael yn bodloni safon BES 6001 yn ymwneud â chaffael o ffynonellau cyfrifol.
Mae’r Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydain i’w gweld yma:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal dadl Aelod Unigol ar gyfer yr hanner tymor nesaf ddydd Mercher 13 Mai 2015.
4 Deddfwriaeth
4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) yn ymwneud â’r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.
Dywedodd y Gweinidog Busnes wrth y
Pwyllgor fod y Bil wedi cyrraedd y camau olaf ar ei daith
drwy’r Senedd. Oherwydd prinder amser, cytunodd y Rheolwyr
Busnes i nodi’r Memorandwm, ac i beidio â’i
gyfeirio at un o bwyllgorau’r Cynulliad at ddibenion
craffu.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac anfon copi at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddweud wrthynt fod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod ond nad oedd wedi’i gyfeirio at bwyllgor craffu.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r ddarpariaeth hon yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mawrth 2015.
5 Rheolau Sefydlog
5.1 Cynigion i newid y Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chofrestru a Datgan Buddiannau’r Aelodau ac Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan yr Ysgrifenyddiaeth yn ymwneud â newid y Rheolau Sefydlog yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei adroddiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau’r Aelodau a newid y rheolau’n ymwneud ag aelodaeth y Pwyllgor.
Cytunodd y Rheolwr Busnes, o ran
egwyddor, i’r newidiadau arfaethedig i’r Rheolau
Sefydlog ac i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i ymgynghori â’r Pwyllgor ynghylch y
newidiadau arfaethedig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater ymhellach mewn cyfarfod arall, ar ôl i’r Pwyllgor ymateb.
6 Amserlen y Cynulliad
6.1 Dyddiadau toriad 2015-16
Trafododd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau dros dro’r toriadau hyd at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. O gofio y bydd Pasg 2016 yn agos iawn at y dyddiad y diddymir y Cynulliad, trafododd y Pwyllgor y gwahanol bosibiliadau o ran y toriad hwnnw.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aros nes daw rhagor o wybodaeth i law gan y Gweinidog am raglen ddeddfu’r Llywodraeth cyn ymgynghori â’u grwpiau ynghylch dyddiad y toriad.